Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (29)v4 |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) |
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) |
3. Dadl ar y Gyllideb Ddrafft (120 munud) NDM4847 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12: Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol 2012-2013 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty ar 4 Hydref 2011. Dogfennau
Ategol
Adroddiad gan y Pwyllgor Cyllid – Craffu ar gynnig cyllideb
ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2012-2013 Cyflwynwyd y
gwelliant a ganlyn: Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Peter Black (Gorllewin De Cymru) Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn gwrthod cefnogi cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2012-13, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Hydref 2011 gan y Gweinidog Cyllid, ar y sail nad yw’n mynd i’r afael yn ddigonol â'r canlynol: a) y pwysau ariannol y mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ei wynebu; b) yr argyfwng economaidd sy’n gwaethygu; c) y pwysau ariannol y mae ysgolion yn ei wynebu er mwyn diwallu anghenion plant difreintiedig; a d) y pwysau ariannol ar brosiectau cyfalaf. Yn unol â rheol Sefydlog 11.15 (i), penderfynodd y Llywodraeth y byddai unrhyw bleidlais angenrheidiol yn digwydd ar ôl y ddadl. |
4. Dadl ar y Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy (60 munud) NDM4848 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod mai'r egwyddorion a'r blaenoriaethau a bennwyd yn Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu yw'r sylfaen o hyd ar gyfer trawsnewid gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol yng Nghymru. 2. Yn nodi'r cynnydd sydd wedi'i wneud o ran cyflawni Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu, gan gynnwys y trefniadau arwain newydd a roddwyd ar waith. Dogfen
Ategol Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Dileu ‘mai'r egwyddorion a'r blaenoriaethau a bennwyd yn Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu yw'r sylfaen o hyd’ a rhoi yn ei le ‘bod gan yr egwyddorion a'r blaenoriaethau a bennwyd yn Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu y potensial’. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn nodi pwysigrwydd arweinyddiaeth effeithiol ac atebol a bod hyn yn hollbwysig er mwyn gwella Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu wrth gynigion Llywodraeth Cymru i dorri 5.9 y cant oddi ar Gyllideb Refeniw Gwasanaethau Cymdeithasol mewn termau real rhwng 2011/12 a 2012/13. Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu’r polisi i ddatblygu Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol newydd ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi’r Fframwaith hwn fel blaenoriaeth ar gyfer gweithredu. Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi y bydd newidiadau demograffig yn y dyfodol yn rhoi rhagor o bwysau ar wasanaethau cymdeithasol, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i feithrin cysylltiadau gweithio agosach rhwng adrannau gwasanaethau cymdeithasol a byrddau iechyd lleol. Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu'r defnydd a wneir o gyllidebau personol ar gyfer pobl sy'n derbyn gofal er mwyn iddynt dderbyn rhaglen ofal sy'n addas i angen personol. Yn unol â rheol Sefydlog 11.15 (i), penderfynodd y Llywodraeth y byddai unrhyw bleidlais angenrheidiol yn digwydd ar ôl y ddadl.
|
Crynodeb o Bleidleisiau |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30 Dydd Mercher, 16 Tachwedd 2011